Gambargin on DeviantArthttp://creativecommons.org/licenses/by-nc-nd/3.0/https://www.deviantart.com/gambargin/art/Boudicca-of-Iceni-Concept-Sketch-492504144Gambargin

Deviation Actions

Gambargin's avatar

Boudicca of Iceni - Concept Sketch

By
Published:
2.7K Views

Description

A Concept sketch for Boudicca for the upcoming addition to the Women War Queens Series.

Brenhines arwrol llwyth Celtaidd yr Iceni, a flodeuai yn y ganrif gyntaf yn ne-ddwyrain Lloegr, oedd Buddug (hefyd Boudica, Boudicca neu Boadicea).

www.youtube.com/watch?v=UoNb3_…

Roedd Britannia, y rhan o Brydain a oedd dan reolaeth Rhufain, yn cael ei llywodraethu gan y procurator Rhufeinig llygredig Catus yn enw y llywodraethwr Suetonius Paulinus, a oedd yng ngogledd Cymru yn brwydro yn erbyn y derwyddon ym Môn. Pan fu farw Prasutagas, gŵr Buddug, dechreuodd Catus anrheithio yr Iceni a'u tiroedd.

Yn O.C. 61 cipiodd Catus Fuddug a'i ddwy ferch ifanc a'u fflangellu yn gyhoeddus ac yna eu treisio. Mewn canlyniad cododd yr Iceni mewn gwrthryfel yn erbyn y Rhufeiniaid. Dan arweiniad Buddug, a oedd yn rhyfelwraig ddewr, gorchfygodd yr Iceni y nawfed lleng, Legio IX Hispana. Aethant yn eu blaen i gipio Verulamium, y brifddinas Rufeinig ar y pryd Camelodunum, ynghyd â porthladd Londinium.

Brysiodd Suetonius Paulinus a'i fyddin yn ôl o Fôn. Roedd ganddo fyddin o tua deng mil o wŷr: Legio XIV Gemina, rhan o Legio XX Valeria Victrix a rhai milwyr cynorthwyol. Cyfarfu â Buddug a'i llu ger High Cross ar Stryd Watling a bu brwydr mawr. Ymladdodd yr Iceni yn ffyrnig ond, er bod ganndynt fantais sylweddol o ran eu nifer roedd y llengwyr Rhufeinig yn rhy ddisgybliedig iddynt. Ffoes Buddug a gweddillion ei byddin adref. Ymddengys ei bod wedi lladd ei hun yno yn hytrach na dioddef y gwarth o weld ei llwyth a'i theyrnas yn cael eu hanreithio.
Image size
940x1231px 1.62 MB
Comments23
Join the community to add your comment. Already a deviant? Log In
Sebistara's avatar
actual rome 2 tw gameplay